Newyddion diweddaraf

FFURF BERYGLUS O DDEMOCRATIAETH

Yn araf, gyda chymorth y ddeddfwriaeth sydd yn cael ei wthio’n gyflym drwy’r Senedd oherwydd y pandemig coronafeirws, mae democratiaeth yn marw. Y Mesur Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd enfawr a fydd yn cael effaith mawr ar yr hawl i brotestio, heb sôn am amharu ar hawliau grwpiau Teithwyr a Roma, ydy’r ychwanegiad diweddaraf at reoli drwy ddyfarnu Llywodraeth y DU. Mae adran arbennig hyd yn oed wedi’i neilltuo i gerfluniau yn sgil proestiadau Black Lives Matter, gan osod dedfrydau o hyd at ddeng mlynedd am halogi cofebau cyhoeddus. Mae’r Mesur Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd yn ymestyn pwerau’r heddlu i atal protestiadau sydd yn achosi ‘ anniddigrwydd difrifol’ yn ogystal â rhoi cosbau llym i brotestwyr sydd yn achosi ‘annifyrrwch difrifol’. Mae’r gosb o ddeng mlynedd am ddifrodi cerfluniau yn gwbl anghymesur. Deng mlynedd ydy’r tariff uchaf a roddir am fygythiadau i ladd, gwenwyno heb fod yn farwol ac ymosodiad anweddus.
Darllenwch fwy

Y PWNC LLOSG

MAE ANGEN I LYWODRAETH CYMRU WEITHREDU I ATAL TRYCHINEB GRENFELL ARALL Rhaid dysgu gwersi o bob trychineb. Dinistrwyd 72 o fywydau mewn un bloc o fflatiau oherwydd tân yn Llundain yn 2017 ac un flwyddyn yn ddiweddarach, collwyd o leiaf 64 o fywydaui mewn tân yng Nghanolfan siopa yn Kemerovo, Siberia. Dwy wlad miloedd o filltiroedd ar wahân ac eto mae’r ddwy drychineb yn rhannu’r un nam marwol, sef esgelustod troseddol o ran diogelwch tân. Yn Rwsia, y prif achosion oedd system larwm tân diffygiol ac allanfeydd tân wedi’u cloi, tra yn Llundain arweiniodd waliau yn cynnwys insiwleiddio marwol ynghyd â system rheoli mwg a lanwodd y llwybrau dianc gyda mwg at golli bywydau yn drasig. Lledaenodd y tannau gyda ffyrnigrwydd mor gyflym, ac eto mae systemau cyfiawnder ar draws y byd yn boenus o araf, yn enwedig mewn achosion lle mae sawl asiantaeth dan sylw ac mae cyfrifoldeb yn cael ei symud o un i’r llall. Ychwanegwch y pandemig Covid at hyn ac mae’n cael effaith ar gyflymdra’r achosion llys. Ond y cwestiwn ydy, a fydd angen gweld trychineb arall cyn i Lywodraeth Cymru weithredu i gael gwared ar y cladin marwol o gartrefi mewn blociau uchel o fflatiau?
Darllenwch fwy

Y DIFFEITHDIR

Mae darn o dir llwm o goncrid a chwyn gerllaw Rhodfa’r Gorllewin A48 a gorsaf drennau Parc Waun-gron. Mae’n anodd dirnad bod miliwn o bunnoedd, ac yna £680,000 pellach o arian y trethdalwyr eisoes wedi ei wario ar y diffeithdir yma ers 2014. Cafodd y miliwn cyntaf ei wario ar uwchraddio’r ganolfan ailgylchu oedd ar y safle cyn i hwnnw gau yn ddisymwth. Defnyddiwyd yr ail swm o arian ar ddatblygu’r safle gyda chynlluniau uchelgeisiol i adeiladu gorsaf fysus a bloc uchel o 50 o fflatiau cyngor. Y bwriad ydy trawsnewid y safle yn gyfnewidfa trafnidiaeth i gysylltu llwybrau metro a bysus ar draws y ddinas. Mae’r metro ei hun yn brosiect gwerth miliynau o bunnoedd. Ac eto dydy gwaith ddim wedi cychwyn ar y safle, sydd yn parhau’n ddiffeithdir ers i Lywodraeth Cymru gau’r ganolfan ailgylchu dros chwe mlynedd yn ôl. Mae oedi wedi bod o ran dyddiad cwblhau’r orsaf fysus tan o leiaf 2023; mae Cyngor Caerdydd yn honni bod y safle wedi’i halogi gydag olew ac mae angen cyfleuster arbennig i gael gwared ohono, a dyma sydd yn arwain at oedi.
Darllenwch fwy

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.